P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr, Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor, 16.05.22

 

Annwyl Y Pwyllgor Deisebau,

 

Diolch am gael y cyfle I ymateb I’r ddeiseb uchod ag hoffwn rhoi y sylwadau canlynol a mi wnaf eu ymateb fesul pwynt fel y maen’t yn ymddangos isod –

 

1)    Siomedig I ddweud y gwir yw ymateb I’r ddogfen a oedd yn atodedig oherwydd yr un ymateb mae pawb sydd wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ei dderbyn a nid yw wedi ymdrechu I ymateb y cwestiynau niferoedd sydd wedi cael ei ofyn iddo mewn llythyr neu e-bost ag yn bennaf pam ei fod wedi dod I’r penderfyniad I dynnu’n ol o gynllun  ffordd osgoi Llanbedr. Mae yn datgan yn y ddogfen bod Maes Awyr Llanbedr, sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru yn parhau I fod yn ased allweddol o fewn y rhanbarth ag hefyd y gallai gefnogi gwaith yna yn y dyfodol a creu sywddi o ansawdd uchel ym maes STEM. Yn anffodus ni all y swyddi hyn cael eu datblygu yn y Maes Awyr heb gael mynediad gwell I’r safle yn gyntaf a nid oes pwrpas creu mynediad o un ochor oherwydd byddai trafnidiaeth o’r ochor arall yn gorfod dod trwy’r Pentref.

 

2)    Fel a ddywedwyd yn gynt nid yw y Gweinidog wedi ymateb I gwestiynau sydd wedi cael ei gofyn iddo yn flaenorol a sut mae yn credu byddai allyriadau carbon yn uwch wrth deithio ar hyd y ffordd osgoi a nad ydynt yn barod pam mae teithwyr yn aros mewn tagfeydd traffig am hyd at 45 munud a mwy yn disgwyl mynd drwy’r Pentref oherwydd y bont gul hanesyddol sydd yn restredig yn y canol. Mae angen I’r Gweinidog a Panel neu Gadeirydd yr Adolygiad Ffordd ddod I’r Pentref a chyfarfod a rhai o’r gymuned sydd yn gorfod byw o ddydd I ddydd gyda’r problemau sydd yn bodoli yn y Pentref a byddai hyn yn gyfle iddynt weld y broblem sydd yn bodoli yn y Pentref yn ddyddiol ond yn llawer iawn gwaeth fel mae tymor yr ymwelwyr yn cychwyn.

 

3)    Hoffwn gael gwybod pam fod y Gweinidog wedi cymeryd y penderfyniad I dynnu’n ol o ddatblygu y ffordd osgoi yn Llanbedr a heb gyfarfod yn gyntaf gyda trigolion y Pentref a minnau fel yr Aelod Lleol er mwyn cael ein barn ni pam fod ffordd osgoi drwy’r Pentref mor bwysig er mwyn iddo gael darlun arall o safwbwynt y trigolion lleol ar yr hyn oedd yn meddwl I’w wneud. Pam fod Cadeirydd Panel yr Adolygiad Ffordd heb gyfarfod ar trigolion a minnau cyn ysgrifennu ei adroddiad. A oes Cynllun Argyfwng mewn lle gan y Gweinidog pan fydd tagfeydd traffic yn bodoli achos ar sawl achlysur nid yw y gwasanaethau brys yn gallu dod drwy’r Pentref ar yr adegau hyn sydd yn golygu bod bywydau yn cael eu rhoi yn y fantol

 

4)    Mae pobl lleol yn enwedig yr henoed ofn cerdded dros y bont sydd hefo palmant cul a sydd ddim yn addas I rhywun hefo pram ei gerdded ag oherwydd hyn nid yw pobl lleol yn dod lawr I’r Pentref ag yn dal y bws I fynd I wneud siopao yn rhywle arall sydd yn golygu bod y siop fach leol yn colli allan. Mae sawl un wedi cael ei daro wrth gerdded ar y bont oherwydd mae cerbydau yn dod ag yn mynd ar ben y palmant I basio cerbyd arall ag felly mater o amser yw hi nes fydd rhywun wedi cael damwain difrifol oherwydd hyn. Mae mwy a mwy o drafnidiaeth trwm yn teithio drwy’r Pentref yn nawr a mae hyn yn ddyddiol drwy gydol y flwyddyn. Mae dwy ddamwain wedi digwydd yn y Pentref lle mae loriau mawr wedi taro mewn I gerbyd sydd wedi parcio ar ochor y ffordd oherwydd bod y ffordd yn gul a ddim yn addas I loriau o’r fath deithio arnynt ag wrth lwc nid oedd niwed difrifol I’r cerbydau ond gallai wedi bod yn waeth.

 

Oso es datblygiad sylweddol I fod yn y Maes Awyr ag I ddenu y math datblygiad mae angen mynediad gwell I’r safle ar unig opsiwn ydi cael ffordd osgoi a heb hyn ni fydd y Maes Awyr sydd dan berchnogaeth LLywodraeth Cymru yn ffynnu.

 

Gobeithio bod yr uchod yn help I chi

 

Yn gywir,

Cyng. Annwen Hughes

Ward Harlech a Llanbedr